Welcome to DoItWithDai.org.uk Croeso, wnewch chi fewngofnodi neu ymuno
Mewn cydweithrediad â liftshare – gweithredwyr mwyaf systemau rhannu ceir y DU – mae TraCC wedi sefydlu www.rhannucarcc.com . Nod y wefan yw hyrwyddo pob math o gludiant a chyfannu dulliau preifat a chyhoeddus o deithio. Mae am uchafu dewisiadau pobl o deithio tra'n gostwng y nifer o geir sydd ar y ffyrdd, lleihau llygredd, arbed arian a diogelu'r amgylchedd.
Mae'r siroedd cyfagos o Henffordd, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Chastelll Nedd Port Talbot ynghyd â niferoedd eraill ar draws y DU wedi datblygu gwefannau cyffelyb sy'n darparu hyd yn oed mwy o gyfleon i bobl rannu ceir yn y canolbarth a thu hwnt.
Mae rhannucarcc.com yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac wedi ei ddylunio ar gyfer pob math o ddefnyddiwr posibl. Os ydych yn yrrwr/ymdeithiwr, neu â diddordeb mewn darganfod modd gwahanol o deithio i osgoi problemau parcio a thagfeydd traffig sy'n gwynebu y rhan fwyaf ohonom yn ddyddiol, dyma'r wefan i chi.
Rhaid cofrestru - yn rhad ac am ddim - ar gyfer y basdata rhannu ceir fel bod liftshare yn medru rhedeg y cynllun mewn modd mor ddiogel â phosibl sydd ond yn cymeryd rhai munundau i gwblhau. Mae liftshare yn sicrhau ni ddatgelir unrhyw wybodaeth pan yn cofrestru i gwmnïau/sefydliadau eraill.
Felly, peidwich ag oedi … ymunwch heddiw!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglyn â'r cynllun rhannu ceir, ymwelwch â'n adran Cwestiynau a Holir yn Aml/Cwestiynau ac Atebion neu cysylltwch â liftshare yn uniongyrchol: support@liftshare.com
Mwynhewch eich taith!
Am ragor o wybodaeth ar gynllun rhannucarcc, cysylltwch â: