Welcome to DoItWithDai.org.uk Croeso, wnewch chi fewngofnodi neu ymuno

CLUDIANT CYMUNEDOL

Mae CLUDIANT CYMUNEDOL (CC) yn cwrdd ag anghenion cludiant cymunedau, lle nad yw cludiant cyhoeddus a masnachol yn cwrdd â'r anghenion hyn.
Mae cynlluniau unigol yn gynlluniau dielw, ac yn aml, cânt eu datblygu a'u rhedeg gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol i wasanaethu eu cymunedau eu hunain. Efallai y byddant yn cwrdd ag anghenion y gymuned gyfan, neu grwpiau penodol o fewn cymuned.

Mae nifer o gynlluniau llwyddiannus yn rhedeg ledled yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys :

  • Cynlluniau ‘dial a ride' – mae'r rhain wedi'u lleoli yn y gymuned, a chânt eu rhedeg gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol.
  • Cynlluniau Cerdyn Tacsi sy'n cael eu rhedeg gan Grwpiau Gwirfoddol.
  • Darparu bysiau mini i'w llogi.
  • Cynlluniau llogi ar gyfer grwpiau a chynlluniau ceir gwirfoddol.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â chludiant cymunedol ym Mhowys, ewch i wefan PAVO, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

Pavo

www.pavo.org.uk

Am ragor o wybodaeth ynglyn â chludiant cymunedol yng Ngheredigion, ewch i wefan CAVO, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion

Cavo

www.cavo.org.uk

Am ragor o wybodaeth ynglyn â chludiant cymunedol yng Ngwynedd, ewch i wefan Cyngor Gwynedd a dilynwch y ddolen ‘bysiau a threnau'. Yna, gallwch weld wybodaeth berthnasol am wasanaethau Gwynedd.

Gwynedd

www.gwynedd.gov.uk

Ymwadiad | English

liftshare network