Welcome to DoItWithDai.org.uk Welcome guest, please login or sign up
Os bydd gennych unrhyw broblemau pellach yn defnyddio'r safle, cysylltwch â ‘cefnogaeth'.
Rhannu car yw pan fydd mwy nag un teithiwr mewn car preifat. Mae pawb yn rhannu ceir, gyda'n ffrindiau a'n teulu, heb feddwl am y peth. Yn aml mae yna adegau pan fydd gan y gyrrwr seddau gwag yn y car oherwydd nad ydynt yn gwybod am unrhyw un sydd angen lifft.
A dyna lle mae rhannu car a drefnwyd, gan ddefnyddio'r dechnoleg orau sydd ar gael heddiw, yn dod i rym.
Mae'r gwasanaeth cysylltu pobl i rannu car yn rhoi pobl sy'n teithio i'r un cyfeiriad neu gyrchfan debyg mewn cyswllt â'i gilydd, gan eu galluogi nhw i drefnu teithio gyda'i gilydd a rhannu'r gost, a hefyd ostwng tagfeydd a llygredd ar ein ffyrdd.
Beth yw manteision rhannu car?
Mae gan y DU y tagfeydd gwaethaf, yr amser cymudo hiraf, yr ail gyfradd uchaf o ddefnyddio'r ffordd a'r berchenogaeth car uchaf yn yr UE.
Mae sefyllfa draffig y DU wedi arwain at gostau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol:
Rhannu Car:
Pe bai hanner gyrwyr y DU yn derbyn lifft un diwrnod yr wythnos, byddai gorlawnder a llygredd yn gostwng 10% a thagfeydd 20%.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw un sy'n teithio yn y DU – myfyrwyr, cymudwyr, pobl sy'n cludo'u plant i'r ysgol, cefnogwyr pêl-droed, y rheiny sy'n mynychu gwyliau, twristiaid, gweithwyr – unrhyw un!
Ac mae ymuno â'r cynllun yn syml ac AM DDIM. Yr hyn sy'n rhaid i chi ei wneud yw Cofrestru eich manylion (am resymau diogelwch) a byddwn yn anfon eich cyfrinair atoch ar yr e-bost.
Gwnewch nodyn o'ch cyfrinair, oherwydd bydd ei angen arnoch i fynd i'r safle yn y dyfodol. Serch hynny, petai i chi ei anghofio, gallwch glicio ar Anfonwch fy nghyfrinair ataf. Bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon atoch ar yr e-bost yn syth.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich siwrnai ac wedi cyflwyno'r wybodaeth, byddwn yn chwilio'r gronfa ddata am gysylltiadau posib ac yn trosglwyddo manylion pobl eraill sy'n teithio ar yr un siwrneiau â chi.
Gallwch gysylltu ag unrhyw gwmni teithio addas drwy eu cyfeiriad e-bost (mae hyn yn sicrhau preifatrwydd yr aelodau) a threfnu i gwrdd â nhw mewn man casglu sy'n addas i'r ddau ohonoch. Gwnewch yn siŵr bod y ddau ohonoch yn dod â phrawf adnabod gyda chi fel eich bod yn gwybod eich bod yn cyfarfod â'r person cywir.
Ffordd arall o gymryd rhan yw sefydlu Grŵp rhannu car, neu gallwn ni ddatblygu un o'n Cynlluniau Rhannu Car Dynodedig ar gyfer eich cwmni, eich pentref, eich tref, eich gwasanaeth etc.
Oherwydd y trefnu sydd ynghlwm wrth hyn, mae rhannu car yn fwy priodol ar gyfer teithiau a drefnwyd ymlaen llaw neu siwrneiau rheolaidd, gan gynnwys:
Ond gallwch hefyd chwilio am gwmni teithio ar gyfer siwrneiau unigol i unrhyw le yn y wlad.
Beth yw'r posibilrwydd o ddod o hyd i'r cwmni perffaith ar gyfer fy ngofynion?
Bu miloedd o bobl yn llwyddiannus yn dod o hyd i gwmni teithio drwy ddefnyddio Liftshare, ac mae ein meddalwedd wedi'i ddylunio er mwyn nodi'r holl ffyrdd posib o'ch cludo chi o a i b.
Ond, os byddwch yn cael trafferth dod o hyd i gwmni, rydym yn awgrymu eich bod yn chwilio am gwmni teithio am ran o'ch siwrnai ac yn teithio'r gweddill ar gludiant cyhoeddus.
A chofiwch - po fwyaf o aelodau sydd gennym, mwyaf yw'r cyfle o ddod o hyd i'r union gwmni i chi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich ffrindiau am Liftshare, a'u cael nhw i gofrestru eu siwrneiau cgaph.
A fydd fy nghyfeiriad e-bost yn weladwy i ddefnyddwyr eraill?
Na fydd, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei guddio bob amser. Yr unig wybodaeth sy'n weladwy i ddefnyddwyr eraill yw eich enw ‘arferol', eich opsiwn smygu a manylion y siwrnai rydych wedi'u hychwanegu.
Beth yw manteision ariannol rhannu siwrneiau?
Cost gyfartalog tanwydd yw 20c y filltir…
Mae Liftshare yn awgrymu bod teithwyr yn talu 10c y fillitir yr un a £1 tuag at draul cyffredinol.
Felly fel gyrrwr…
Ac fel teithiwr…
A oes rhaid i mi dalu i chwilio am yrwyr neu deithwyr?
Mae'n rhad ac am ddim i chwilio am gwmni teithio. Ond, rydym yn argymell bod gyrwyr a theithwyr yn rhannu cost pob taith, neu gall teithwyr dalu 5c y filltir.
Beth yw goblygiadau yswiriant rhannu lifft?
“Ni fydd cyfranogi mewn cynllun rhannu lifft yn annilysu yswiriant gyrwyr”, dywed Vic Rance o Sefydliad Yswiriant Prydain.
“Dylai gyrwyr sy'n ansicr gysylltu â'u cwmnïau yswiriant”.
Ni ddylai rhannu ceir a rhannu'r gost gynyddu eich costau yswiriant, er y gall codi mwy ar eich teithwyr na'u rhan hwy o'r costau rhedeg annilysu eich yswiriant.
Os hoffech gysylltu â'ch cwmni yswiriant, defnyddiwch ein Llythyr Drafft.
Beth yw fy nghyfrinair ac a allaf ei newid?
Byddwn yn e-bostio eich cyfrinair atoch cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru.
Os hoffech newid eich cyfrinair i un y byddwch yn ei gofio'n well, cliciwch ar Personol, dilëwch y sêr yn y bocsys cyfrinair a'u hailosod nhw gyda'ch cyfrinair eich hunan.
Pa wasanaethau eraill sydd ar gael?
Mae gan y safle liftshare.com Adroddiadau Traffig, Cynllunwyr Siwrneiau cynhwysfawr a gwybodaeth ar Fysus, Trenau a llawer mwy i'ch helpu i gynllunio eich siwrnai yn effeithiol.
Mae ein meddalwedd hefyd yn gadael i chi greu eich Grwpiau rhannu car eich hunan yn rhad ac am ddim, fel y gallwch greu grŵp caeedig unigryw i chi a'ch ffrindiau, neu grŵp agored newydd ar gyfer pobl â diddordebau penodol.
Byddwn hefyd yn darparu Cynlluniau Rhannu Car Dynodedig ar gyfer grwpiau, cwmnïau neu gymunedau sydd eisiau darparu ffordd rad a hawdd i bobl deithio. Mae'r gwasanaethau eraill yn cynnwys Gwasanaethau Ymgynghori, Arolygon Teithio, dylunio Gwefan Gludiant a chynorthwyo i Hyrwyddo eich Cynllun.
Beth yw grŵp sy'n rhannu lifft?
Mae gennym nifer mawr o grwpiau cyhoeddus y gallwch ymuno â nhw heb unrhyw gost ychwanegol, sy'n eich galluogi chi i ddod o hyd i gwmni teithio â diddordebau neu gyrchfannau tebyg i chi. Cliciwch yma i weld rhestr gyflawn o'r grwpiau cyhoeddus.
Gallwch hefyd sefydlu eich Grŵp Preifat eich hun y byddai mynediad iddo yn gyfyngedig.
Sut gallaf greu grŵp rhannu lifft?
Mae creu grŵp yn hawdd! Yr hyn sydd angen i chi benderfynu yw a hoffech greu Grŵp Preifat, lle bydd yr aelodaeth yn gyfyngedig, neu Grŵp Cyhoeddus lle gall unrhyw un ymuno. Er enghraifft, efallai yr hoffech greu grŵp caeedig i chi a'ch cydweithwyr. Neu gallech greu grŵp agored ar gyfer unrhyw un â diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar Grwpiau a dilynwch y cyfarwyddiadau!
Sut mae cysylltu â'r gyrrwr/ teithiwr?
Ar ôl dewis cwmni teithio addas, dylech gysylltu (er mwyn cytuno ar amser a lleoliad i gyfarfod) gan ddefnyddio ei gyfeiriad e-bost. Nid ydym yn argymell eich bod yn cyfnewid cyfeiriadau cartref (am resymau diogelwch) ac rydym yn cynghori pob aelod i gwrdd mewn mannau cyhoeddus fel gorsaf drenau neu orsaf fysus, sy'n hawdd eu cyrraedd a'u gadael, os bydd y lifft yn methu.
Beth sy'n digwydd os bydd y rhannu lifft yn methu?
Mae Liftshare yn ddarparydd gwasanaeth gwybodaeth deithio yn unig ac ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw siwrneiau sy'n methu. Hefyd, nid yw'r gyrwyr a'r teithwyr sy'n cofrestru eu siwrneiau gyda ni o dan unrhyw oblygiad cyfreithiol i'w cwmni teithio nac i Liftshare i wneud unrhyw siwrneiau.
Ond rydym yn gobeithio os bydd cynlluniau'n newid ac na all siwrneiau gael eu cyflawni, y byddant yn cysylltu â'r holl bartïon a'u rhagrybuddio'n briodol. Rydym hefyd yn awgrymu bod cwmni teithio yn trefnu cwrdd mewn lleoliadau sy'n agos at rwydweithiau cludiant cyhoeddus, felly os bydd cynlluniau'n methu bydd gan y teithwyr opsiwn o ddefnyddio dull arall o gludiant i gyrraedd eu cyrchfan yn brydlon.
Mae diogelwch ein haelodau yn flaenoriaeth ar gyfer Liftshare, ac rydym wedi creu ein gwefan mor ddiogel â phosib. Mae holl fanylion ein haelodau yn cael eu storio'n ddiogel ar gronfa ddata a dim ond gwybodaeth deithio arfaethedig yr aelodau y gellir ei hygyrchu ar-lein.
O ran y teithio, mae pob aelod yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hun. Ond, rydym yn argymell bod aelodau'n dilyn rhai camau diogelwch syml a amlinellwyd isod:
Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch a diogeled gwybodaeth bersonol darllenwch yr Amodau a'r Telerau a'r Polisi Cyfrinachedd.
A yw hi'n bosib dod o hyd i gwmni teithio o'r un rhyw? (h.y menywod yn unig)
Ydy, drwy ein grwpiau cyhoeddus, gallwch ymuno â chynlluniau rhannu car menywod neu ddynion yn unig.
Ble dylwn i drefnu cwrdd â'm cwmni teithio?
Rydym yn awgrymu eich bod yn cwrdd â'ch cwmni teithio mewn man cyhoeddus, yn agos at rwydweithiau cludiant cyhoeddus os yn bosib fel bod opsiynau cludiant eraill ar gael os bydd y lifft yn methu. Rydym yn cynghori aelodau i beidio â chwrdd yn y cyfeiriad cartref am resymau diogelwch.
I ddiddymu eich aelodaeth, cliciwch ar y dudalen Manylion Personol a dewiswch ‘A wnewch chi ddiddymu fy manylion'. Bydd eich manylion yn cael eu dileu o'r gronfa ddata yn syth.
Sut mae newid fy nghyfeiriad e-bost, cyfrinair etc?
I newid unrhyw fanylion personol fel eich cyfeiriad e-bost neu gyfrinair diofyn, cliciwch ar Manylion Personol, ac yna ‘Diweddaru fy manylion'. Gallwch newid eich manylion pan fydd angen, a bydd y manylion ar ein cronfa ddata yn cael eu diweddaru'n awtomatig. Bydd unrhyw fanylion newydd hefyd yn cael eu e-bostio atoch chi ar gyfer eich cofnodion.
Gall Liftshare greu gwefan rhannu car ddynodedig i chi, naill ai fel rhywbeth unigol neu fel rhan o'ch gwefan neu fewnrwyd bresennol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen Gwefannau Dynodedig.
Beth yw manteision Gwefannau Dynodedig a chynlluniau Grŵp?