Welcome to DoItWithDai.org.uk Welcome guest, please login or sign up
POLISI PREIFATRWYDD Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol Mae eich preifatrwydd ar y Rhyngrwyd o'r pwys mwyaf i ni. Gan ein bod yn casglu mathau penodol o wybodaeth am ddefnyddwyr y Rhwydwaith Liftshare , rydym yn teimlo y dylech ddeall yn llawn yr amodau a'r telerau ynghylch cael a defnyddio'r wybodaeth honno. Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn datgelu pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio a sut i'w chywiro neu ei newid. Y wybodaeth y mae Liftshare yn ei chasglu a'i holrhain Mae Liftshare yn casglu dau fath o wybodaeth am ddefnyddwyr: data y mae defnyddwyr yn ei ddarparu drwy gofrestru gwirfoddol, opsiynol; a data y mae Liftshare yn ei gasglu drwy olrhain gwybodaeth a geir yn bennaf drwy ddilyn y tudalennau yr edrychir arnynt a chynlluniau siwrneiau ar draws y Rhwydwaith Liftshare . Mae gwybodaeth o'r fath yn ein galluogi i addasu ein nodweddion a'n cynnwys yn well ar gyfer anghenion defnyddwyr ac i helpu ein hysbysebwyr i ddeall demograffiaeth ein cynulleidfa'n well. Ar hyn o bryd, mae Liftshare yn casglu gwybodaeth drwy'r prosesau canlynol: Cofrestru Opsiynol Mae Liftshare yn cynnig cofrestru gwirfoddol am ddim i ddefnyddwyr. Drwy gofrestru, gall defnyddwyr nodi cynlluniau teithio heb orfod mewngofnodi bob tro; gallant bostio cynlluniau teithio newydd ac ymateb i gynlluniau teithio presennol; gallant fanteisio ar bersonoli (y gallu i hidlo cysylltiadau yn unol â meini prawf a roddwyd gan ddefnyddiwr); a'r gallu i newid cynlluniau teithio presennol. Yn ystod cofrestru, mae'n rhaid i'r defnyddiwr ddarparu cyfeiriad e-bost a rhaid ateb cwestiynau arolwg mandadol am oedran, rhyw, côd post a gwlad. Gwybodaeth Proffil Defnyddiwr Opsiynol Mae gan ddefnyddwyr Liftshare cofrestredig opsiwn i arddangos gwybodaeth bersonol ychwanegol amdanynt drwy'r ffurflenni cyfeiriad, grwpiau a cherbydau. Mae'r holl feysydd sy'n cael eu cynnwys ar y ffurflenni cyfeiriad, grwpiau a cherbydau yn opsiynol. Gall y defnyddiwr ddewis arddangos neu beidio arddangos peth gwybodaeth gan ddefnyddio ardal reoli Fy Nghyfrif. Arolygon Weithiau, bydd Liftshare yn gwneud arolygon o'r defnyddwyr i ddeall anghenion ein cynulleidfa'n well er mwyn gwella ein nodweddion. Weithiau rydym yn rhannu'r wybodaeth ddemograffig gyfansymiol yn yr arolygon hyn gyda'n hysbysebwyr a'n partneriaid. Nid ydym byth yn rhannu unrhyw wybodaeth am unigolion penodol â thrydydd person heb ganiatâd penodol y defnyddiwr. Olrhain Defnydd Mae Liftshare yn olrhain patrymau traffig defnyddwyr ar draws Liftshare.com a Rhwydwaith Liftshare . Gall y wybodaeth hon gael ei defnyddio i bersonoli'r gwasanaeth Liftshare neu i dargedu hysbysebu. Mae Liftshare yn dadansoddi ystadegau defnydd cyffredinol hefyd yn ôl enw parth y defnyddiwr, y math o borwr a MIME drwy ddarllen y wybodaeth hon o'r llinyn pori (gwybodaeth sy'n cael ei chynnwys ym mhorwr pob defnyddiwr). Cookies Cookie yw ffeil ddata fach y mae rhai Gwefannau'n ysgrifennu i'ch disg galed pan fyddwch yn ymweld â nhw. Gall ffeil cookie gynnwys gwybodaeth fel Hunaniaeth y defnyddiwr y mae'r safle'n ei ddefnyddio i olrhain y tudalennau rydych wedi ymweld â nhw. Ond yr unig wybodaeth bersonol y mae cookie'n gallu ei chynnwys yw gwybodaeth rydych chi'n ei darparu. Ni all cookie ddarllen data oddi ar eich disg galed na darllen ffeiliau cookie a grëwyd gan safleoedd eraill. Mae Liftshare yn defnyddio cookies ar gyfer mewngofnodi awtomatig ac i olrhain patrymau traffig defnyddwyr (fel a ddisgrifiwyd uchod). Pan fyddwch yn cofrestru, bydd Liftshare yn defnyddio cookie i storio Rhif Adnabod defnyddiwr unigryw ar hap. Gallwch wrthod cookies drwy eu diffodd oddi ar eich porwr. Ond RHAID I'R COOKIES FOD YMLAEN I DDEFNYDDIO'R GWASANAETH. Defnyddio'r wybodaeth Mae Liftshare yn defnyddio unrhyw wybodaeth a dderbyniwyd gan ein defnyddwyr i wella eu profiad, p'un ai i ddarparu elfennau rhyngweithiol neu bersonoli'r Rhwydwaith Liftshare neu i baratoi nodweddion gwell yn y dyfodol yn seiliedig ar ddiddordebau ein defnyddwyr. Mae Liftshare yn defnyddio eich gwybodaeth e-bost i ddarparu mwy o nodweddion cysylltu siwrneiau. Ar gais defnyddiwr, byddwn yn anfon e-byst yn hysbysu'r defnyddiwr o atebion i bostio siwrneiau penodol. Rydym hefyd yn darparu opsiwn i'r defnyddiwr i alluogi defnyddwyr eraill i ymateb i bost yn uniongyrchol drwy eu cyfrif e-bost hwy. Ac yn olaf, er mwyn i ddefnyddwyr greu grwpiau, gallwn ddarparu llawer o offer rheoli y gall y defnyddiwr ddewis eu derbyn ar yr e-bost. Gall Liftshare hefyd anfon hysbysiadau e-bost at y defnyddiwr am newidiadau penodol i'n gwasanaeth. Nid yw Liftshare byth yn rhannu cyfeiriadau e-bost unigol gydag unrhyw drydydd person, gan gynnwys hysbysebwyr na phartneriaid heb ganiatâd ymlaen llaw ein defnyddwyr. Byddwn yn defnyddio gwybodaeth olrhain i benderfynu pa rannau o'r Rhwydwaith Liftshare y mae defnyddwyr yn eu hoffi a ddim yn eu hoffi yn seiliedig ar draffig i'r ardaloedd hynny. Nid yw Liftshare yn olrhain pa negeseuon y mae defnyddwyr unigol yn eu darllen, ond yn hytrach pa mor dda y mae pob hysbysfwrdd a nodwedd yn perfformio'n gyffredinol. Mae hyn yn ein cynorthwyo i ddarparu gwell gwasanaeth i chi. Mae Liftshare yn creu adroddiadau cyfansymiol ar ddemograffeg defnyddwyr a phatrymau traffig ar gyfer hysbysebwyr a phartneriaid. Mae hyn yn galluogi ein hysbysebwyr i hysbysebu'n fwy effeithiol, ac yn galluogi ein defnyddwyr i dderbyn hysbysebion sy'n berthnasol i'w hanghenion. Rhannu'r wybodaeth Mae Liftshare yn defnyddio'r wybodaeth a ddisgrifiwyd uchod i deilwra ein cynnwys i ddiwallu eich anghenion ac i helpu ein hysbysebwyr i ddeall demograffiaeth ein cynulleidfa'n well. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cadw ein Gwasanaeth Cyflym yn rhydd. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth adnabod unigol am ddefnyddwyr penodol gyda thrydydd person heb ganiatâd y defnyddiwr ymlaen llaw. Nid yw Liftshare yn rheoli arferion ein hysbysebwyr. Os oes gennych gwestiynau am sut mae un o'n hysbysebwyr yn defnyddio gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn clicio ar eu hysbyseb ac yn mynd at eu cynnwys, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol (Bydd Liftshare dim ond yn datgelu gwybodaeth pan fydd angen i gydymffurfio â deddfau federal a deddf gwlad). Polisi Cywiro/ Diweddaru Mae Liftshare yn rhoi'r cyfle i gywiro neu newid gwybodaeth a gasglwyd yn ystod y broses gofrestru (gweler uchod). Gwelir y cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn drwy glicio ar y cyswllt ‘Fy Siwrneiau'. Gall y defnyddwyr newid y wybodaeth hon ar unrhyw adeg ac mor aml ag sydd angen. Gall defnyddwyr hefyd ddiddymu eu cyfrif ar unrhyw adeg drwy gysylltu â support@liftshare.com . Gall defnyddwyr sy'n cael trafferthion neu sydd â chwestiynau am sut mae'r gwasanaethau'n gweithio gysylltu â ni ar support@liftshare.com . Amodau a Thelerau |