Welcome to DoItWithDai.org.uk Welcome guest, please login or sign up

Rhannu Car Canolbarth Cymru

Cynllun i annog pobl i rannu siwrnai ac i beidio defnyddio’r car ar eu pen eu hunain yw Rhannu Car Canolbarth Cymru.

Beth yw rhannu car?

Rhannu car yw pan mae dau neu ragor o bobl yn teithio gyda’i gilydd mewn un car. Mae’n ffordd dda o gwrdd â phobl newydd, mae o fudd i’r amgylchedd, yn helpu i leihau problemau tagfeydd a pharcio, ac hefyd arbed arian.

Pryd gallaf rannu car?

Gellir rhannu car ar gyfer unrhyw siwrnai - teithio i’r gwaith, mynd a’r plant i’r ysgol, mynd i wylio gêm ar y penwythnos, mynd i ŵyl, digwyddiad neu sioe, teithio i brifysgol, ymweld â chyfeillion neu hyd yn oed mynd ar wyliau.

Sut gallaf rannu car?

  • Logiwch ymlaen i’n gwefan
  • Cofrestrwch eich manylion (enw, cod post, a manylion y siwrnai)
  • Byddwn yn cysylltu â chi gyda siwrnai sy’n cyfateb â’ch un chi
  • Chi sy’n dewis os ydych am ymateb i hyn a chysylltu â’r unigolyn i rannu car

Ewch i’n gwefan www.rhannucarcc.com i gofrestru ar lein neu ffoniwch 08700 11 11 99

Sut gall rhannu car fod o fudd i chi:

  • gallwch arbed arian
  • Helpu lleihau tagfeydd
  • Llai o broblemau parcio
  • Lleihau eich ôl-troed carbon
  • Darparu cludiant mewn ardaloedd sydd heb wasanaeth bws
  • Cwrdd â phobl newydd

Peidiwch ag anghofio:

  • Ni fydd eich manylion personol yn cael eu rhannu tan i chi gysylltu â’r unigolyn y byddwch yn rhannu car â hwy
  • Ni fydd rhannu car yn effeithio ar eich yswiriant fel arfer, dim ond i chi beidio â gwneud elw
  • Nid oes angen i chi gael car hyd yn oed

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i’n gwefan ac ymunwch â chronfa ddata rhannu ceir mwyaf y DG.

* Agorir y linciau a nodwyd gan seren mewn ffram newydd.
Ymwadiad | English

liftshare network