Welcome to DoItWithDai.org.uk Croeso, wnewch chi fewngofnodi neu ymuno

Diogelwch

Mae diogelwch ein haelodau yn flaenoriaeth ar gyfer liftshare, ac rydym wedi gwneud ein gwefannau mor ddiogel â phosib. Mae holl fanylion yr aelodau'n cael eu storio'n ddiogel ar y gronfa ddata a dim ond gwybodaeth deithio arfaethedig yr aelodau y gellir ei hygyrchu ar-lein.

O ran teithio, mae pob aelod yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hun. Ond, rydym yn argymell bod aelodau'n dilyn rhai camau diogelwch syml a amlinellwyd isod:

  • Osgowch gyfnewid cyfeiriadau cartref gyda'ch cwmni teithio cyn i chi gwrdd â nhw.
  • Trefnwch gwrdd mewn man cyhoeddus.
  • Dywedwch wrth ffrind neu aelod o'r teulu gyda phwy y byddwch yn teithio, pryd a ble.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos prawf adnabod i'ch gilydd - pasport, cardiau myfyrwyr neu drwyddedau gyrru - fel eich bod yn gwybod eich bod yn teithio gyda'r person cywir.
  • Nid ydych dan unrhyw oblygiad i fwrw ymlaen ag unrhyw rannu lifft. Os oes gennych unrhyw amheuon am eich cwmni teithio, am ba reswm bynnag, dylech osgoi teithio gyda nhw.
  • Os oes gennych unrhyw broblemau ffoniwch ni ar unwaith ar 08700 111199 a byddwn yn ceisio helpu mewn unrhyw ffordd a allwn.

Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch a diogeledd gwybodaeth bersonol darllenwch yr Amodau a'r Telerau a'r Polisi Cyfrinachedd.

A fydd fy nghyfeiriad e-bost yn weladwy i ddefnyddwyr eraill?

Na fydd, bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei guddio bob amser. Yr unig wybodaeth sy'n weladwy i ddefnyddwyr eraill yw eich enw ‘arferol', eich opsiwn smygu, eich ystod oedran, eich rhyw a manylion y daith rydych wedi'u hychwanegu. Ni fydd cyfenw, rhif ffôn na chôd post cartref byth yn cael eu dangos i drydydd person.

Beth yw goblygiadau yswiriant rhannu lifft?

“Ni fydd cyfranogi yn y cynllun rhannu lifft yn annilysu yswiriant gyrwyr”, dywed Vic Rance o Sefydliad Yswiriant Prydain.

“Dylai gyrwyr sy'n ansicr gysylltu â'u cwmnïau yswiriant”.

Ni ddylai rhannu ceir a rhannu'r gost gynyddu eich costau yswiriant, er gall codi mwy ar eich teithwyr na'u rhan hwy o'r costau rhedeg annilysu eich yswiriant.

 

Ymwadiad | English

liftshare network